Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 22 Rhagfyr 2021
Amser:
09.30 -
13.16
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12539
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Carolyn Thomas AS (yn lle Rhianon Passmore AS) |
Tystion: |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Emma Watkins, Llywodraeth Cymru Laura Fox, Llywodraeth Cymru Andrew Hewitt, Llywodraeth Cymru Lynsey Edwards, Llywodraeth Cymru Anna Adams, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) Charlotte Barbour (Cynghorwr Arbenigol) |
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, penderfynodd y Cadeirydd wahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.TV
Rhag-gyfarfod preifat - anffurfiol (09.15 – 09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS. Roedd Carolyn Thomas AS yn dirprwyo ar ei rhan.
2 Papurau i'w nodi
2.1. Cafodd y papurau eu nodi.
3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Sesiwn dystiolaeth 1
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, y Trysorlys; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllideb a Busnes y Llywodraeth wrth Graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol roi nodyn i'r Pwyllgor ar:
· Y dyraniad cyllid ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn y sector gwirfoddol, yn enwedig hosbisau.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5 a 7 ar yr agenda.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.
EGWYL (11.15-12.00)
Cyhoeddus
6 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu): Sesiwn dystiolaeth 1
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Strategaeth Drethi a Chysylltiadau Rhynglywodraethol; Andrew Hewitt, Pennaeth Deddfwriaeth Trethi; a Lynsey Edwards, Cyfreithiwr ar Fil Deddfau Trethi Cymru ac ati (Pwer i Addasu).
Preifat
7 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu): Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.